Towards A Creative and Cultural Industries Sector Skills Banner
Prospectus
Blue Horizontal Margin
>> Home >> prospectus
Press this button to go to the website homepage
Press this button to view the on-line version of the Expression of Interest
Press this button to see the various industries involved in supporting the possible formation of a CCISSC
Press this button view any old archives, such as the prospectus.
Press this button to go to the Questions & Answers page to view any popular asked questions and answers as regards the emerging SSC
Press this button to go to the News Updates page to view the latest news and developments on the formation of the CCISSC
Press this button to go to the Links page to view related sites
verticle margin
Prosbectws

Er mwyn dechrau gwylio fersiwn ar-lein y prosbectws, cliciwch ar y ddelwedd prosbectws isod:

Er mwyn llwytho i lawr fersiwn Cymraeg y prosbectws, cliciwch yma:   Llwytho i lawr y Prosbectws




Ydych chi'n gweithio neu'n cyflogi pobl yn y Diwydiannau Creadigol neu Ddiwylliannol?

Yna beth am ymuno â ni er mwyn ffurfio sefydliad allweddol a fydd yn cyrchu £miliynau bob blwyddyn i wella datblygiad hyfforddiant a sgiliau yn eich maes gwaith chi.

  • Un o fentrau newydd pwysig y Llywodraeth yw'r Cynghorau Sgiliau Sector - ond dim ond hyn a hyn o amser sydd gan ddiwydiannau i sefydlu CSS un pwrpas.
  • Os nad yw diwydiannau yn cefnogi eu Cyngor Sgiliau Sector, yna bydd cydnabyddiaeth y Llywodraeth yn mynd - ac felly hefyd y cyfle i gyrchu'r miliynau hynny o bunnoedd.
Peidiwch â cholli'ch cyfle chi …

Grwp o bobl allweddol ydym ni yn cynrychioli diwydiannau creadigol a diwylliannol sydd eisoes yn gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu Cyngor Sgiliau Sector (i weld rhestr lawn o'r rhai hynny sy'n cymryd rhan hyd yn hyn, ewch at dudalen 7 os gwelwch yn dda). Yn ein barn ni Cyngor Sgiliau Sector yw'r unig ddewis i'n diwydiannau ni, os oes gobaith iddynt ddal i fod yn gredadwy ac aros yng nghylch y cyllid ar gyfer hyfforddiant - ond er mwyn cyflawni hyn, mae'n rhaid i ni gael cefnogaeth weithredol gennych.



Beth yw Cynghorau Sgiliau Sector?

Sefydliadau annibynnol, ledled y DU a gafodd eu datblygu gan grwpiau o ddiwydiannau dylanwadol - â phwysigrwydd economaidd neu strategol yn perthyn iddynt - dyna beth yw Cynghorau Sgiliau Sector (CSS). Yr Asiantaeth Datblygu Sgiliau Sector yw'r corff a sefydlwyd i fod yn gynhaliaeth i rwydwaith y CSS. Diwydiant sy'n arwain CSS ac maent wedi'u trwyddedu gan y llywodraeth i gymryd camau gweithredu er mwyn diwallu anghenion busnes a sgiliau eu sector.

'Yn gyfnewid, maent yn cael buddsoddiad cyhoeddus sylweddol a rhagor o drafodaeth gydag adrannau'r Llywodraeth ar hyd a lled y DU. Bydd hyn yn galluogi cyflogwyr [yn cynnwys yr hunangyflogedig] i gael llawer mwy o ddylanwad ar bolisïau sy'n effeithio ar sgiliau … a rhagor o ddylanwad ar bartneriaid addysg a hyfforddiant.' Gwefan yr

Asiantaeth Datblygu Sgiliau Sector 2003)

Bydd Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer y Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol - gyda chefnogaeth cyflogwyr a phobl hunangyflogedig - yn sicrhau bod adnoddau ar gyfer hyfforddi sgiliau yn cael eu sicrhau yn genedlaethol, rhanbarthol ac yn lleol hefyd.



Pa feysydd fydd CSS Creadigol a Diwylliannol yn gofalu amdanynt?

Dyma'r meysydd y bydd CSS Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol yn gofalu amdanynt:

Bydd yn cynnwys sefydliadau fel theatrau, stiwdios dylunio, orielau, amgueddfeydd, unedau archeolegol, archifdai a llyfrgelloedd - bach a mawr. Bydd yn ymdrin ag ystod eang o alwedigaethau megis y canlynol - y dawnsiwr/wraig, y gwehydd, y crochenydd, y dylunydd graffig, yr archeolegydd, y curadur, y gwarchodwr, y llyfrgellydd a'r archifydd - yn cynnwys y bobl hynny sydd â chyfrifoldebau rheoli. Yn y pen draw bydd yn datblygu er mwyn cynnwys meysydd ychwanegol o'r byd creadigol a diwylliannol.



Pam CSS Creadigol a Diwylliannol?

Yn ein barn ni mae'r ddau faes gwaith hwn yn cyd-fynd yn naturiol gyda'i gilydd. Dyma ddiffiniad yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon o'r diwydiannau creadigol a diwylliannol, sef 'y diwydiannau hynny sydd â'u gwreiddiau mewn creadigedd, sgil, a dawn unigol ac sydd â'r potensial i greu cyfoeth a swyddi trwy gynhyrchu a manteisio ar eiddo deallus'
('Dogfen Amlinellu'r Diwydiannau Creadigol 2001', yr Adran Diwylliant, Celfyddydau a Chwaraeon).

A gyda'i gilydd, bydd ganddynt lais nerthol i'r Llywodraeth i'w gynnig.



Pam mae Cymryd Rhan yn Bwysig?

'Wrth gwrs, canlyniad hyn i gyd yw'r budd pwysicaf un: gweithlu mwy medrus, effeithlon a llawn boddhad … Mae'r achos o blaid busnes a diwydiant yn glir. Mae asiantaethau'r Llywodraeth sydd â'r cyfrifoldeb dros ddysgu, menter a datblygu yn elwa hefyd, gan greu partneriaethau cryf, strategol gyda Chynghorau Sector Sgiliau.'
('Gwahoddiad i Gau'r Bwlch', yr Asiantaeth Datblygu Sgiliau Sector 2002).

Mae diwydiannau creadigol a diwylliannol y DU yn cynhyrchu oddeutu £112 biliwn i'r economi bob blwyddyn ac yn cyflogi mwy na miliwn o weithwyr. Mae allforion yn cyfrannu mwy na £8 miliwn at y fantolen fasnach ac mae'r diwydiannau yn cyfrif am fwy na 7% o'r Cynnyrch Mewnwladol Crynswth ('Dogfen Amlinellu'r Diwydiannau Creadigol 2001' a 'Ffeil Ffeithiau'r Diwydiannau Creadigol': Yr Adran Diwylliant, Celfyddydau a Chwaraeon). Mae'n gyfraniad aruthrol - ond er mwyn cynnal y cyfraniad hwn, rhaid i ni sicrhau bod ein gweithlu yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen i gyd-fynd ag anghenion diwydiant pan maent yn newid - neu fel arall fe gawn ein hanwybyddu.

Yn fwy a mwy y dyddiau hyn mae'r Llywodraeth yn awyddus i gyllido hyfforddiant yn unig yn y diwydiannau hynny lle mae'r diwydiant ei hun yn achub y blaen. Yn y dyfodol bydd yn dyrannu cronfeydd ariannol i ddatblygu hyfforddiant a sgiliau - trwy'r CSS yn unig.

O ystyried pethau yn feunyddiol efallai bod y materion hyn yn swnio'n wahanol i'w gilydd ond os nad ydym yn gweithredu nawr yna fe fydd y gweithwyr, ar bob lefel, yn gorfod dioddef y canlyniadau yn y dyfodol. Heb Gyngor Sgiliau Sector ni fyddwn yn gallu dal ati i ddatblygu hyfforddiant, cymwysterau a safonau proffesiynol. Bydd y cyllid ar gyfer prosiectau yn dod i ben a bydd ein hygrededd wedi mynd.



Sut fydd fy Niwydiant yn Elwa?

Bydd CSS i'r Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol yn darparu:
  • llais cenedlaethol ar gael er mwyn cael cyngor ynghylch bylchau mewn sgiliau.
  • cymorth i ymdopi ag anghenion sgiliau sy'n newid o hyd.
  • y cyfle i ddylanwadu ar ffurfio polisi.
  • y tawelwch meddwl o wybod bod yr agenda yn cael ei gynnal gan ac ar gyfer y sector.
  • corff cenedlaethol i roi'r ddadl dros raglenni datblygu cyllid.
  • mwy o ddylanwad ar bartneriaid mewn addysg a hyfforddiant.
  • rhagor o gyfle i ymuno â rhaglenni hyfforddi.
  • cyfleoedd i ffurfio partneriaethau rhwng aelodau.
  • y cyfle i ddatblygu gwaith gyda diwydiannau eraill o fewn y CSS.
  • cysylltiadau â chyrff arbenigol sy'n gweithio mewn meysydd fel rheoli.
  • siarad ag un llais gyda'r Llywodraeth.



Eich Swyddogaeth Chi

Bydd diwydiannau (gan gynnwys cyflogwyr a phawb sy'n hunangyflogedig) yn chwarae rhan allweddol yn y Cyngor Sgiliau Sector - yn wir ni fydd yr un o'r CSS yn cael caniatâd i ganlyn arni, heb gefnogaeth bendant gan ddiwydiant.

Byddant yn defnyddio'r wybodaeth sydd ganddynt am eu sector i ddweud ble mae'r bylchau mewn darpariaeth hyfforddiant, rhoi cyngor ynghylch y sgiliau sydd eu hangen er mwyn ymdopi â'r tueddiadau sy'n datblygu, sicrhau bod profiad ymarferol yn cyfrannu at ffurfio polisi ac yn rhoi gerbron y buddsoddwyr yr achos o blaid cyllido rhaglenni hyfforddi a datblygu. Bydd yr uwch swyddogaeth hon yn golygu bod diwydiannau yn cael llawer mwy o gyfle i ddweud eu dweud am lunio eu sector a chryfhau'r dylanwad a gânt ar bartneriaid mewn addysg a hyfforddiant.



Felly, beth Ddylwn i ei Wneud Nawr?

Mae'r ddadl o blaid CSS Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol yn cael ei rhoi ar brawf trwy gyfrwng eich adborth chi; felly mae'n hollbwysig ein bod yn cael eich sylwadau barn chi. Mae'r Asiantaeth Datblygu Sgiliau Sector wedi egluro a rhestru'r broses ar gyfer y rhai hynny sy'n ceisio statws CSS. Y cam ffurfiol cyntaf fydd paratoi datganiad Mynegi Diddordeb sy'n gorfod derbyn cefnogaeth gan ystod eang o gyflogwyr yn y sector.

Rydym wedi cael ymateb ardderchog i’r gwahoddiad i ymuno â ni mewn ymdrech i gael ein cydnabod yn Gyngor Sgiliau Sector. Trwy gydol y broses cydnabyddiaeth CSS byddwn yn diweddaru rhestr ein partneriaid ac yn defnyddio’r holl ymatebion er mwyn ategu’r cais.

Rydym yn parhau i dderbyn cyflwyniadau mynegi cefnogaeth, felly byddwch cystal â dal ati i lenwi’r ffurflen adborth ar y dudalen Eich Sylwadau Barn Chi.

Unwaith y bydd datganiad Mynegi Diddordeb wedi'i dderbyn, bydd gan y sector chwe mis i baratoi a chyflwyno bid manwl, â chostau llawn, i'r SSDA. Bydd y gwaith hwn yn canolbwyntio ar feithrin gallu'r sector i fodloni Safon y CSS ac ar lunio cynllun busnes sy'n pennu'r blaenoriaethau a'r targedau am dair blynedd cyntaf y maes gweithredu. Ac yn ystod y cyfnod hwn bydd yr aelodau yn datblygu'r Cyngor Sgiliau Sector ac yn cyfarwyddo ei weithgareddau.

Ar gyfer y cam cyntaf, rydym yn gofyn i chi roi eich cefnogaeth i gyflwyno datganiad Mynegi Diddordeb er mwyn datblygu Cyngor Sgiliau Sector Creadigol a Diwylliannol.

Cafodd y wefan hollol ryngweithiol hon ei datblygu er mwyn bod yn gyfrwng dadlau/trafod ac i ddarparu gwybodaeth fanwl am broses y CSS.

Ar y wefan mae:


Y Sefydliadau sy'n Cymryd Rhan yn Barod

  • Cyngor y Celfyddydau Lloegr
  • Cyngor y Celfyddydau Cymru
  • Hyfforddiant Celfyddydau Cymru
  • Cymdeithas Siartredig y Dylunwyr
  • Cyngor Archeoleg Prydain
  • Pobl Greadigol
  • NTO - Treftadaeth Ddiwylliannol
  • Dawns y DU *
  • Adran Diwylliant, y Celfyddydau & Chwaraeon
  • Grwp Ymgynghorol Dylunio
  • Cymdeithas Busnes Dylunio
  • Y Cyngor Dylunio
  • Fforwm Crefft Cymru
  • Cyngor y Theatrau Annibynnol *
  • Sefydliad yr Archeolegwyr Maes
  • Cymdeithas yr Amgueddfeydd
  • Cynhadledd Genedlaethol Cyfarwyddwyr Amgueddfeydd
  • Cyngor Amgueddfeydd Gogledd Iwerddon
  • Fforwm Theatrau Opera a Cherdd *
  • Undeb llafur Prospect (ar ran ei aelodau ymysg rheolwyr / staff arbenigol)
  • Resource: Cyngor yr Amgueddfeydd, Archifdai & Llyfrgelloedd
  • Cyngor Amgueddfeydd yr Alban
  • Cymdeithas Theatr Llundain *
  • Cymdeithas y Rheolwyr Theatr *
  • Sgiliau'r DU (Fforwm Sgiliau Crefft).
  • Mae'r cyrff celfyddydau hyn hefyd mewn cyswllt agos ag Equity, BECTU ac Undeb y Cerddorion.

Mae trafodaethau hefyd ar fynd gyda'r Cyngor Cerdd Cenedlaethol.


Er mwyn llwytho i lawr y prosbectws neu unrhyw ddogfennau eraill o ddiddordeb, ewch at yr adran llwytho i lawr.

Print Page
Bookmark Page
Search
Print
Bookmark
Help Me
Contact Us
 
Copyright © cciskills 2003. Site disclaimer. Website Designed and Developed by: e-merge.